Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0856°N 4.2726°W |
Cod OS | SN444452 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Rhydowen. Gorwedd ar yr A475 rhwng Pren-gwyn a Cwmsychbant, tua 7 milltir i'r gorllewin o Llanbedr Pont Steffan. Llifa Afon Cletwr heibio i'r pentref.
Mae gan y pentref boblogaeth o 347, gyda tua 200 ohonynt yn medru'r Gymraeg.
Gerllaw mae capel Llwynrhydowen, lle treuliodd David Davis (Dafis Castellhywel) gyfnod yn gweinyddu yn y 18g. Roedd aelodau grŵp pop Cymraeg a gwerin o'r 1960au, Y Cwiltiaid yn aelodau o'r capel Undodaidd yn y pentref ac yno y bu iddynt berfformio gyntaf cyn canu ar draws Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]